2012 Rhif 842 (Cy. 115)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhagnodi'r swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”). Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Rheoliadau Asesu”) a Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Deuant i rym ar 9 Ebrill 2012.

Mae adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth asesu gallu person i dalu am lety o dan Ran 3 o'r Ddeddf, ragdybio, yn niffyg anghenion arbennig, y bydd angen swm rhagnodedig ar berson at ei anghenion personol bob wythnos. Mae rheoliad 2 yn rhagnodi £24.00 fel y swm sydd ei angen at anghenion personol o dan adran 22(4).

Mae rheoliad 3 yn dirymu rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011 a oedd gynt yn rhagnodi'r swm at anghenion personol o dan adran 22(4). 

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r Rheoliadau Asesu fel bod y terfyn cyfalaf a nodir yn rheoliad 20A yn newid i £23,250.

Mae rheoliad 5 yn gwneud rhai diwygiadau technegol i Reoliadau 2003. Yn flaenorol, yr oedd dau derfyn cyfalaf, terfyn isaf a therfyn uchaf, a oedd yn cael eu defnyddio i asesu gallu unigolyn i dalu am lety o dan Ran 3 o'r Ddeddf. Yng Nghymru, yn rhinwedd Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2010, rhoddwyd un terfyn cyfalaf yn lle'r ddau derfyn cyfalaf. Mae rheoliad 5 yn dileu cyfeiriadau at y terfyn isaf sy’n aros yn Rheoliadau 2003.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2012 Rhif 842 (Cy. 115)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2012

Gwnaed                               14 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Mawrth 2012

Yn dod i rym                             9 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948([1]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2012.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ebrill 2012.

(3)  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau sydd eu hangen at anghenion personol

2. Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £24.00 yr wythnos.

Dirymu

3. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2011([3]) drwy hyn wedi ei ddirymu.

Diwygio rheoliad 20A o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992

4. Yn Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992([4]), ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn cyfalaf – Cymru), yn lle'r ffigur “£22,500” rhodder y ffigur “£23,250”.

Diwygio Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003

5.(1)(1) Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Llety Preswyl) (Taliadau Ychwanegol, Cyfraniadau Perthnasol ac Asesu Adnoddau) (Cymru) 2003([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2— 

(a)     ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Asesu” mewnosoder—

“ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw'r swm cyfalaf a bennir yn rheoliad 20A(2) o'r Rheoliadau Asesu.”; a

(b)     hepgorer y diffiniad o “terfyn cyfalaf isaf”.

(3) Yn rheoliad 4(2)(b) ac (c), hepgorer “isaf” yn y ddau le y mae'n ymddangos.

(4) Mae rheoliad 5(2) drwy hyn wedi ei ddirymu([6]).

 

 

 

 

 

 

Gwenda Thomas

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

14 Mawrth 2012



([1])           1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o “the Minister” a “prescribed” yn eu trefn, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a throsglwyddwyd hwy wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([3])           O.S. 2011/708 (Cy.110).

([4])           O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.

([5])           O.S. 2003/931 (Cy.121).

([6])           Mewnosododd rheoliad 5(2) baragraff (4) yn rheoliad 28 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992. Wedi hynny dirymwyd rheoliad 28 gan reoliad 2(4) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/662 (Cy.52)).